Dwfe

Gwasarn duvet heb orchydd
Gwasarn duvet heb orchydd

Gwasarn yw dwfe neu dufet (o'r Ffrangeg duvet, sy'n golygu 'manblu' neu 'plucen') neu carthen blu [1] sy'n cynnwys bag fflat meddal wedi'i lenwi â manblu, plu, gwlân, sidan neu deunydd synthetig amgen, ac fel arfer yn cael eu diogelu â gorchudd symudol, yn debyg i glustog ac achos gobennydd. Mae pobl sy'n cysgu yn aml yn defnyddio duvet heb ddalen gwely uchaf, gan y gellir tynnu'r gorchudd duvet yn hawdd a'i olchi mor aml â'r ddalen isaf. Deilliodd duvets yn Ewrop wledig ac fe'u llenwyd â phluau hwyaid fwythblu neu gwyddau. Mae'r ansawdd gorau yn cael ei gymryd o'r hwyaden fwythblu, gan fod ei manblu yn adnabyddus am ei effeithiolrwydd fel ynysydd thermol.

Mewn Saesneg llafar yn Awstralia, gelwir duvet hefyd yn doona. Yn Saesneg Americanaidd, gellir ei alw'n comforter; fodd bynnag, mae comforter fel arfer yn fath gwahanol o wasarn nad yw mor drwchus, nad oes ganddo orchudd, ac a ddefnyddir yn aml dros ddalen uchaf. Yn y Deyrnas Unedig, gelwir duvet hefyd yn gwilt cyfandirol ('Continental Quilt').

  1. https://geiriaduracademi.org/

Developed by StudentB